Ein gwerthoedd a’n gweledigaeth

Yn RMBI Care Co, ceisiwn ddarparu gwasanaethau gofal proffesiynol ac unigol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau beunyddiol pobl.

Rydyn ni’n Garedig.

Rydyn ni’n garedig i’n preswylwyr, eu teuluoedd ac i’n gilydd oherwydd credwn yn gryf yn y gofal a ddarparwn. Credwn y dylid trin pawb gydag urddas ac y dylid parchu eu dymuniadau bob amser.

Rydyn ni’n Gefnogol.

Rydyn ni yma i helpu a bod yn gefnogol wrth ofalu am bobl gan roi preswylwyr wrth galon pob dim a wnawn. Rydyn ni’n trin pob person fel unigolyn gan gydnabod y pethau sy’n bwysig iddynt a gweithio fel tîm i gyflawni hyn.

Rydyn ni’n Ddibynadwy.

Rydyn ni’n agored, gonest ac mae pobl yn ymddiried ynom i ddarparu gofal i Seiri Rhyddion, eu dibynyddion a’r gymuned ehangach. Rydyn ni wedi bod yn cefnogi pobl hŷn ers dros 170 o flynyddoedd a gweithiwn yn agos gyda’n preswylwyr, eu teuluoedd a gyda’n gilydd i greu amgylchedd diogel.

Gofalu yw ein ffordd o fyw

Ein hanes

Sefydlodd y Gyfrinfa Fawr y Gronfa Les Frenhinol Fasonaidd i ddynion yn 1842 ac i ferched yn 1849.

Yn 1850 agorwyd y Cartref cyntaf yn East Croydon a sefydlwyd hefyd y Sefydliad Lles Masonaidd Brenhinol (RMBI).

Arhosodd y Cartref yn Croydon am dros gan mlynedd tan 1955 pan gafodd ei drosglwyddo i Harewood Court yn Hove ar ôl penderfynu bod angen mwy o le.

Heddiw mae gan RMBI Care Co 18 o gartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr ac mae’n cefnogi Seiri Rhyddion hŷn, eu teuluoedd a phobl yn y gymuned ehangach drwy ddarparu gofal preswyl, nyrsio a chymorth dementia.

whois: Andy White Freelance WordPress Developer London Skip to content