Dod o hyd i’r Cartref iawn

Rydyn ni bob amser yn annog pobl i alw heibio i weld un o’n Cartrefi’n dilyn ymholiad. Mae’n bwysig cael y teimlad o Gartref, edrych o gwmpas a siarad gyda’r Tîm Rheoli i ofyn unrhyw gwestiynau.

Ar hyn o bryd, mae llai o le yn ein Cartrefi er mwyn gwarchod ein preswylwyr a’n staff yn ystod yr argyfwng presennol. Os hoffech gael eich tywys o gwmpas un o’n Cartrefi, cysylltwch â’r Cartref sydd gennych mewn golwg i drefnu amser addas gyda Rheolwr y Cartref. Ar gyfer teithiau tywys, rydyn ni wedi cyfyngu’r ymweliadau i’r darpar-breswylydd ac un aelod o’r teulu a bydd hefyd angen i bob person gwblhau’r mesurau angenrheidiol sydd yn eu lle (e.e. gwisgo’r PPE cywir a chymryd eu tymheredd).

Mae yna hefyd lawer o adnoddau i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i’r Cartref iawn, gan gynnwys rhestr ar-lein Which.co.uk, sy’n cynnwys cwestiynau i’w gofyn wrth ddewis Cartref. Gallwch hefyd edrych ar wefannau’r CQC ac Arolygiaeth Gofal Cymru, y cyrff rheoleiddio annibynnol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr, i ddarllen yr adroddiadau arolygu diweddaraf ar ein Cartrefi.

Mathau o ofal

Mae deall sut fath o ofal sydd ei angen arnoch chi, neu rywun agos atoch, yn gam pwysig wrth ddewis cartref gofal.

Mae gennym 18 o wasanaethau gofal ar draws Cymru a Lloegr a darparwn ofal preswyl, gofal nyrsio a chymorth dementia preswyl.

Bydd y math o ofal sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar eich anghenion. Bydd y cartref gofal y byddwch yn ymgeisio iddo’n gwneud asesiad llawn i benderfynu sut fath o ofal sydd ei angen arnoch cyn cynnig lle i chi, i sicrhau bod y Cartref yn gallu ateb yr anghenion hynny.

Talu am eich gofal

Ynghyd â dod o hyd i gartref y byddwch yn hapus â fo, bydd angen i chi feddwl am sut i dalu am eich gofal. Mae ein gwasanaethau ar gael i bobl sy’n talu amdanynt eu hunain a lle mae’r awdurdod lleol yn talu.

Mae nifer o wahanol ffyrdd o dalu am eich gofal. Mae’r ffordd y byddwch yn talu’n dibynnu ar eich sefyllfa ariannol a’ch asedau cyfalaf a gallai fod angen i adran gofal cymdeithasol oedolion eich awdurdod lleol wneud asesiad ariannol a gofal.

Argymhellwn i chi ofyn am gyngor ariannol annibynnol ar eich sefyllfa bersonol, cyn gynted â phosib. Mae gan Which.co.uk offeryn syml i gael gwybod mwy am ffioedd cartrefi gofal ac a allech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan eich awdurdod lleol. Am fwy o wybodaeth cliciwch fan hyn.

Bydd ein Tîm Rheoli hefyd yn fodlon trafod y gwahanol opsiynau gyda chi yn ystod y broses o wneud cais – dylech gysylltu â’r Cartref sydd gennych mewn golwg am gyngor pellach.

Byddwn yn dweud beth fydd eich ffioedd wythnosol cyn i chi symud i Gartref. Mae’r ffioedd yn talu am lety, prydau bwyd a gofal; gallent newid wrth i’ch anghenion newid. Gallwch fynd i’n Cartrefi gofal a darllen tudalen y Cartref sydd gennych mewn golwg i weld manylion ychwanegol am ffioedd pob Cartref a beth sydd wedi’i gynnwys.

Bydd pob preswylydd sy’n dod i’n Cartref yn derbyn asesiad ariannol i gadarnhau eu hamgylchiadau unigol a sut y bydd eu ffioedd gofal yn cael eu talu. Os yw preswylydd yn cyrraedd pwynt lle na fedrant mwyach dalu am eu gofal, bydd RMBI Care Co. yn parhau i gynnal eu ffioedd cyn belled ag y gallwn barhau i gwrdd ag anghenion yr unigolyn a gall yr awdurdod lleol dalu amdanynt.

Sut i wneud cais

Os ydych yn barod i wneud cais, mae’r ffurflen gais y bydd angen i chi ei llenwi isod, ynghyd â’n Canllaw Cymhwysedd, lle bo hynny’n berthnasol. Os hoffech dderbyn canllawiau neu gymorth pellach ar lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch â’r Cartref sydd gennych mewn golwg a bydd y Tîm Rheoli’n hapus i’ch helpu.

 

Ar hyn o bryd nid ydyn ni’n codi ffioedd atodol ar breswylwyr sy’n byw yn ein Cartrefi.

Y cyfnod seibiant lleiaf yw 1-2 wythnos, gan ddibynnu ar y cartref gofal a ddewisir. Dylech gysylltu â’r Cartref perthnasol am fwy o wybodaeth.

 

Cefnogwn bobl gyda chysylltiad â’r Seiri Rhyddion, yn ogystal â phobl yn y gymuned ehangach nad oes ganddynt gysylltiad â’r Seiri Rhyddion. Lle mae gan Gartref restr aros o breswylwyr sydd am ddod i’r Cartref, rhoddir blaenoriaeth bob tro i Seiri Rhyddion a’u teuluoedd cyn belled ag y gallwn gefnogi anghenion y person.

Mae hyn yn dibynnu ar bob awdurdod lleol ac amgylchiadau pob unigolyn. Mae gennym nifer o breswylwyr lle mae awdurdodau lleol o’r tu allan i’r ardal yn talu amdanynt, yn aml oherwydd mai dyma’r Cartref RMBI agosaf i ble maen nhw’n byw, neu lle mae’r person yn symud i fod yn nes at eu teulu.

Mae cais pob preswylydd yn wahanol a bydd yr amser cyn derbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Gall rhai ceisiadau gymryd ychydig yn hirach oherwydd gorfod aros i’r awdurdod lleol gymeradwyo’r cyllid. Gall y broses dderbyn gymryd rhwng ychydig oriau ac ychydig fisoedd i gael ei chwblhau. Ar gyfartaledd, yr amser yn fras rhwng Tîm Rheoli’r Cartref yn derbyn cais gan ddarpar-breswylydd, a chwblhau asesiad a chynnig lle, yw tua phythefnos.

Argymhellwn fod pobl yn ymweld â’r Cartref sydd ganddynt mewn golwg i gael asesiad anffurfiol. (update as necessary re: Covid-19). Byddwn yn gwneud asesiad gofal llawn cyn cadarnhau pa gategori gofal sydd ei angen ar berson.  Gellir gwneud yr asesiad yng nghartref y person, yn yr ysbyty neu yn y cartref gofal sydd gennych mewn golwg; gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol.  Rhaid i asesiad llawn gael ei wneud cyn y gallwn dderbyn unrhyw un.

Talu eich hun a’r awdurdod lleol yn talu

Yn Lloegr gall yr awdurdod lleol dalu am eich gofal, ond mae’n dibynnu ar brawf modd. Os oes gennych arian cynilo gwerth dros £23,250 neu rydych yn berchen ar eich eiddo, fel arfer ni fydd gennych hawl i gymorth i dalu am eich ffioedd gofal.

I fod yn gymwys am gymorth ariannol gan eich awdurdod lleol, rhaid i’ch arian cynilo neu asedau fod yn llai na £23,250. Bydd eich awdurdod lleol yn cyfrifo faint y gallwch ei dalu tuag at eich ffioedd gofal, ar ôl ystyried eich incwm wythnosol, gan gynnwys £1 am bob £250 o’r arian cynilo rhwng £14,250 a £23,250 fel incwm Tariff. Pan fydd eich cyfalaf ‘parod’ yn dod lawr i £14,200, ni fydd yr incwm Tariff yn berthnasol mwyach.

Yng Nghymru, os yw cyfanswm eich cyfalaf yn llai na £50,000, bydd gennych hawl i’r uchafswm cymorth gan eich awdurdod lleol. Ni fydd angen i chi gyfrannu o’ch arian cyfalaf ond bydd disgwyl i chi gyfrannu o’ch incwm (e.e. pensiwn).  Os oes gennych gyfalaf o fwy na £50,000, a allai gynnwys eich eiddo, bydd yn rhaid i chi dalu cost eich gofal yn llawn.

Gofal Nyrsio Wedi’i Ariannu (FNC)

Yn dilyn asesiad, os oes angen gofal nyrsio arnoch yn un o’n Cartrefi, mae gan breswylwyr sy’n talu eu hunain, a lle mae’r awdurdod lleol yn talu, hawl i gyfraniad at eu gofal nyrsio. Bydd y GIG yn talu hyn yn uniongyrchol i’r cartref gofal. Os talwch eich ffioedd gofal eich hun, bydd y swm yn cael ei dynnu allan o’ch ffioedd wythnosol. Mae ein ffioedd yn cynnwys yr elfen gofal nyrsio a bydd hyn yn cael ei dynnu allan o gyfanswm y ffioedd wythnosol, tra byddwch yn derbyn FNC.

Gofal Iechyd Parhaus

Nid oes prawf modd ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG – mae’r GIG yn talu’r gost yn llawn ar gyfer unigolion sydd angen gofal iechyd sylweddol a pharhaus y tu allan i’r ysbyty arnynt.  Mae bod yn gymwys am ofal iechyd parhaus yn dibynnu ar lefel a chymhlethdod anghenion gofal iechyd yr unigolyn.

Mae’r ffioedd gofal llawn yn cael eu talu ac unwaith y mae’r cyllid wedi’i roi, mae’n cael ei adolygu ymhen tri mis. Yna dylid adolygu’r sefyllfa ymhellach o leiaf unwaith y flwyddyn.

Gellir tynnu’r cyllid i dalu am ofal iechyd parhaus yn ôl ar unrhyw adeg yn dilyn adolygiad. Os yw hyn yn digwydd ac mae dal angen bod mewn cartref gofal arnoch, byddwch yna’n dod yn breswylydd sy’n talu amdanoch eich hun neu lle mae’r awdurdod lleol yn talu, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Bydd dod â rhai o’ch pethau eich hun, gan gynnwys dodrefn, yn gallu eich helpu i setlo mewn Cartref a gwneud popeth yn fwy cyfarwydd. Bydd ein staff yn gwneud profion PAT ar eich eitemau trydanol i sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio yn y Cartref gan lynu wrth ein gofynion iechyd a diogelwch.

Am fwy o wybodaeth am symud i un o’n Cartrefi, gan gynnwys dod ag anifeiliaid anwes, amseroedd ymweld a chael gweld meddygon teulu, dylech ddarllen y wybodaeth am ein Pecyn Croeso uchod.

Cysylltu â ni

Os oes angen mwy o wybodaeth, cyngor neu gymorth arnoch, cofiwch gysylltu gyda ni.

Ymholiadau Cyffredinol: 020 7596 2400

E-bost: enquiries@rmbi.org.uk

whois: Andy White Freelance WordPress Developer London Skip to content