Dementia ac RMBI Care Co.

Darparwn ofal mewn ffordd sy’n cefnogi pobl fel unigolion ac yn eu helpu i fwynhau bywyd o ansawdd gwell o ddydd i ddydd.  Dathlwn y sgiliau y mae person wedi eu cadw a gweithiwn gyda nhw i’w helpu i aros yn annibynnol ac i ddefnyddio’r sgiliau hynny lle gallwn.

Ceisiwn ddechrau o safbwynt ‘beth y gall person ei wneud’ a sut y gallwn eu cefnogi; gan weithio gyda’r preswylydd, eu teulu a’u hanwyliaid i drafod a gweld beth sy’n bwysig iddynt a cheisio, lle gallwn, ymgorffori’r pethau hyn yn eu bywydau.

Mae holl staff ein cartrefi gofal yn derbyn hyfforddiant sylfaenol mewn dementia; mae staff sy’n gweithio yn ein Tai Cymorth Dementia’n derbyn hyfforddiant ychwanegol i gynorthwyo iechyd a lles preswylwyr gyda dementia drwg.

Os oes gennych ddiddordeb yn y gofal dementia preswyl mewn unrhyw un o’n Cartrefi, cysylltwch â Thîm Rheoli’r Cartref sydd gennych mewn golwg fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am wasanaethau’r Cartref hwnnw.

Arbenigwr dementia

Anne Child, RMBI Care Co. Dementia Specialist Lead

Anne Child, RMBI Care Co. Prif Arbenigwr Dementia Ymunodd Anne ag RMBI Care Co. fel Arbenigwr Fferyllol a Dementia yn 2016 i gynorthwyo a datblygu’r gofal dementia yn ein Cartrefi.

Fel fferyllydd cymwysedig ers dros 30 o flynyddoedd, mae Anne yn teimlo’n gryf am ei phroffesiwn. Bu’n gweithio fel Fferyllydd Cymunedol, Prif Fferyllydd Iechyd Meddwl mewn PCT, Prif Fferyllydd mewn lleoliad gofal canolraddol cymunedol dan arweiniad nyrsys i bobl hŷn, ac yn fwy diweddar yn darparu gofal dementia uniongyrchol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n gynghorydd arbennig i CQC ac yn parhau i weithio gyda chydweithwyr academaidd ar raglenni newydd pob cyfle a gaiff.

Yn 2014 penodwyd Anne yn Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i ddementia ac yn 2015 daeth yn warcheidwad rhaglen ar gyfer modiwlau dementia a meddyginiaeth cartrefi gofal gyda’r Coleg Ymarfer Fferyllol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nifer o brosiectau dementia yn RMBI Care Co. gan gynnwys sut y gall yr elusen barhau orau i gefnogi preswylwyr, eu teuluoedd a’r staff heddiw ac i’r dyfodol.

 

Amcangyfrifir bod  850,000

o bobl yn byw gyda dementia yn y DU

Mae 525,315

o bobl yn y DU wedi derbyn diagnosis o ddementia

Bydd gan filiwn

o bobl yn y DU ddementia erbyn 2025 gan ddisgwyl i hyn godi i ddwy filiwn erbyn 2050.

Mae risg person o gael dementia’n cynyddu o un o bob 14 yn 65+ oed i un o bob chwech o bobl yn 80+ oed.

Defnyddir y gair ‘dementia’ i ddisgrifio symptomau nifer o wahanol afiechydon neu gyflyrau sy’n achosi dirywiad cynyddol yn yr ymennydd.  Yn aml iawn mae’r newidiadau hyn yn fach i ddechrau, ond i rywun gyda dementia maen nhw’n ddigon difrifol i effeithio ar fywyd pob dydd.

Mae sawl math o ddementia, gan gynnwys:

  • Clefyd Alzheimer
  • Dementia fasgwlar
  • Dementia gyda chyrff Lewy (DLB)

Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddementia gan gyfrif am tua dau o bob tri achos mewn pobl dros 65 oed. Mae hefyd yn bosib cael mwy nag un math o ddementia ar yr un pryd.

Weithiau mae gan berson glefyd Alzheimer a hefyd dementia fasgwlar neu ddementia gyda chyrff Lewy, a elwir yn ‘ddementia cymysg’.  Mae gan y cyflyrau hyn rai pethau’n gyffredin ond mae yna hefyd wahaniaethau pwysig rhyngddynt o ran eu heffaith ar bobl a sut y gellir eu rheoli. Mae yna hefyd glefydau prin sy’n gallu arwain at ddementia.

Pan fydd gan rywun ddementia mae’n naturiol i ni ofyn pam.  Nid yw fel arfer yn bosib dweud i sicrwydd, er y bydd meddyg efallai’n gallu dweud pa ffactor(au) allai fod wedi cyfrannu ato.  Gan amlaf bydd cymysgedd o ffactorau risg yn gyfrifol – y gallai rhywun fod wedi eu hosgoi neu beidio.

Rhoddir mwy o wybodaeth am ddeall y ffactorau risg hyn ar wefan y Gymdeithas Alzheimer yn – alzheimers.org.uk

Gall dementia achosi nifer o wahanol symptomau.  Dyma rai o’r rhai mwyaf cyffredin:

  • Methu cofio pethau – yn raddol bydd yn dod yn glir bod y methu cofio’n gwaethygu ac yn ddiatal os yw’r person yn cael trafferth cofio digwyddiadau neu wybodaeth newydd. Yn aml iawn bydd hyn yn fwy amlwg i deulu a ffrindiau nag i’r person ei hun.
  • Newid ymddygiad – gall dementia wneud y byd yn lle dryslyd a diddeall iawn wrth i’r person gael trafferth deall beth sy’n digwydd o’u cwmpas. Nid ydynt mwyach yn adnabod na’n gallu uniaethu â’u hamgylchedd, ac o ganlyniad mae eu hymddygiad yn newid.  Gellir weithiau camgymryd y newidiadau hyn fel symptom arall o’r cyflwr, ond nid felly y dylid edrych arni’n aml. Er enghraifft gall y person, yn ddifwriad, fod yn gorfforol neu’n eiriol ymosodol. Gall hyn fod yn brofiad trallodus iawn i’r person, y bobl sy’n gofalu neu’n cynorthwyo ac i’w hanwyliaid.  Fodd bynnag, gyda’r cynllun gofal a chymorth iawn, mae’n bosib rheoli newidiadau ymddygiad yn dda.  Yr hyn sy’n bwysig yw adnabod y person a gweithio gyda nhw i ganfod y pethau sy’n gymorth i’w lles ac yn hybu eu hannibyniaeth.
  • Patrymau cysgu – mae rhai pobl gyda dementia’n cael trafferth cysgu. Gallent gysgu yn ystod y dydd, methu cysgu wedi nos neu ddeffro’n aml yn ystod y nos. Gelwir y patrwm hwn o ymddygiad trallodus yn ‘ddementia’r machlud’ ac fel arfer mae’n digwydd yn hwyr y prynhawn neu’n fuan gyda’r nos.  Gallent deimlo’n ffwndrus neu geisio gwisgo a cherdded o gwmpas.  Gall aflonyddwch fel hyn effeithio ar ansawdd bywyd y person a’r bobl sy’n gofalu amdanynt.

(Ffynhonnell: Y Gymdeithas Alzheimer)

Weithiau gall pethau eraill achosi symptomau fel rhai dementia, fel haint wrinol neu ar y frest, diffyg hylif yn y corff, sgîl-effeithiau meddyginiaeth, iselder, straen neu ddiffygion fitamin.

Os sylwch ar unrhyw arwyddion neu symptomau, dylech annog y person yn garedig i gysylltu â’u meddyg teulu neu ofyn am gymorth pellach gan sefydliad priodol. Nid yw’r asesiad o ddementia posib yn cynnwys cyflyrau y gellir eu trin; nid un cam ydyw ond proses sy’n cymryd amser.  Mae’n cynnwys nifer o wahanol gamau a phrofion ac yn diweddu drwy roi diagnosis.  I’r person a’r bobl sy’n agos atynt mae’n siwrne ansicr, bryderus ac emosiynol iawn yn aml.

  • Cartrefi RMBI Care Co.

Mae pob un o gartrefi RMBI Care Co. yn gallu cefnogi pobl gyda dementia. Os oes gennych ddiddordeb mewn Cartref neilltuol, cysylltwch â’r Cartref yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth (link to list of all Homes).

 

  • Y Gymdeithas Alzheimer

Elusen gofal ac ymchwil ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr.

www.alzheimers.org.uk neu ffoniwch y Llinell Ddementia Genedlaethol ar 0300 222 11 22.

  • Cynghrair Gweithredu Dementia Lleo

Grŵp o bobl sydd wedi dod at ei gilydd i greu cymuned dementia-gyfeillgar (DFC). www.dementiaaction.org.uk/local_alliances

 

  • Independent Age

Yn rhoi cyngor clir, di-dâl a diduedd ar ystod o wahanol faterion fel gofal a chymorth, arian a budd-daliadau, iechyd a symudedd.

www.independentage.org.uk  neu ffoniwch 0800 319 6789.

 

  • Gwasanaethau Cymdeithasol

Gall eich gwasanaethau cymdeithasol lleol helpu gyda gofal personol a gweithgareddau dydd i ddydd ar ôl asesu’r anghenion.

 

  • Prif Elusennwr Lleol (ar gyfer Seiri Rhyddion)

Bydd eich Prif Elusennwr Lleol efallai’n gallu eich cyfeirio ymlaen at gymorth a chefnogaeth leol.

Yr amgylchedd dementia

Mae’r Cydlynwyr Gweithgareddau’n brysur a brwdfrydig iawn gan drefnu gweithgareddau ar gyfer pob dydd o’r wythnos, yn aml yn y bore a’r prynhawn.

Adolygiad gan Carehome.co.uk, Connaught Court

Gweithiwn yn barhaus i wella ein Cartrefi er mwyn cefnogi anghenion ein preswylwyr ac unrhyw newid iddynt. Mae llawer o’n Cartrefi wedi trawsnewid gwahanol ardaloedd, prynu cyfarpar digidol ac yn trefnu gweithgareddau rheolaidd i gefnogi preswylwyr gyda dementia, gyda chymorth gan gymuned y Seiri Rhyddion a Chymdeithas Cyfeillion ein Cartrefi. Dyma rai o’r ardaloedd unigryw mewn rhai o’n Cartrefi ynghyd â gweithgareddau dementia-gyfeillgar sydd wedi eu darparu gan ein Timau Gweithgareddau.

 

Cartrefi gofal sy’n gyfeillgar i ddementia


whois: Andy White Freelance WordPress Developer London Skip to content