Rydyn ni wedi ychwanegu nifer o fesurau diogelwch i warchod preswylwyr, staff ac ymwelwyr i’n Cartrefi. Bydd y mesurau hyn yn aros yn eu lle am y dyfodol i ddod. Os hoffech dderbyn mwy o fanylion am y mesurau diogelwch mewn cartref gofal penodol, cysylltwch â’r Cartref hwnnw’n uniongyrchol.
Mae gennym drefniadau iechyd a diogelwch a rheoli haint trylwyr yn eu lle i ddiogelu pawb sy’n dod i’n Cartrefi. Mae hyn yn cynnwys cymryd gwres ymwelwyr a sicrhau bod gennym gyflenwad digonol o Gyfarpar Diogelu Personol i’n holl staff.
Rydyn ni’n cydnabod bod haint Covid-19 yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ddysgu byw gyda fo ac addasu iddo. Rydyn ni wedi creu model asesu risg ar sail yr amodau lleol yn y cymunedau lle lleolir y Cartrefi. Mae hyn yn golygu, lle nad yw’r feirws yn gryf, y byddwn yn gwneud yr asesiadau risg angenrheidiol i gynorthwyo tripiau teuluol a tripiau undydd er mwyn lles ein preswylwyr. Os bydd yr amodau lleol yn newid, byddwn yn addasu ein trefniadau ac yn aros yn hyblyg i addasu’n gyflym. Bydd hyn yn ein helpu i achub ar bob cyfle i roi mwy o gyswllt cymdeithasol i breswylwyr a theuluoedd ar unrhyw adeg.
Mae gennym ystafell ymwelwyr gyda phared ym mhob un o’n Cartrefi fel bod ein preswylwyr yn gallu cyfarfod eu teuluoedd yn ddiogel unwaith eto, gan gynnwys gofodau arbenigol i helpu ein preswylwyr gyda dementia. Mae’r ardaloedd yn cael eu dwfn-lanhau rhwng pob ymweliad a rhaid trefnu pob cyfarfod ymlaen llaw drwy gysylltu â Thîm Rheoli’r Cartref, i sicrhau y gallwn gynnal pob ymweliad yn ddiogel.
Mae gan rai o’n Cartrefi hefyd ofod ymweld allanol i gynorthwyo ymweliadau yn yr awyr agored, lle mae’r tywydd yn caniatáu. Rydyn ni hefyd yn parhau i helpu preswylwyr i aros mewn cysylltiad â’u hanwyliaid drwy ddulliau cyfathrebu ar-lein fel Skype a Zoom. Defnyddir y dechnoleg hon hefyd, lle bo hynny’n bosib, i gysylltu gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i barhau i ddiwallu anghenion iechyd ein preswylwyr.
Gyda mwy o fynediad at brofion, rydyn ni wedi lleihau’r cyfnod ynysu i breswylwyr newydd neu ar gyfer arosiadau seibiant, ar yr amod bod y person wedi cael prawf negyddol cyn dod i’r Cartref. Mae ail brawf yn cael ei wneud ar ôl cyrraedd.
Rydyn ni’n wir ddiolchgar am y gofal, sylw a’r cariad a gafodd Mam gan Ecclesholme, yn enwedig dros bedwar mis diwethaf y cyfnod clo. Rydyn ni wedi gallu siarad dros y ffôn ac mae’r Cartref wedi anfon lluniau, ond does dim byd gwell na gweld rhywun sy’n annwyl i chi yn y cnawd. Mae’r pod yn y Cartref wedi gadael i ni wneud hyn.
Perthynas yn Ecclesholme, Manceinion, Gorffennaf 2020
Roedd yn hyfryd gweld Mam, roedden ni gyd mor hapus! Mae Barford Court wedi gofalu mor dda am Mam. Mae’r ystafell ymwelwyr newydd yn rhagorol, da iawn chi a diolch yn fawr!
Perthynas i breswylydd yn Barford Court, Hove, Mehefin 2020
Mae mor wych gallu gweld fy ngwraig unwaith eto a gallu siarad! Rydyn ni wedi siarad bob dydd, ond dydy hynny ddim yr un peth. Ni allaf ddweud faint y mae cael y gofod diogel hwn yn ei olygu i ni, jyst mewn pryd ar gyfer dathlu pen-blwydd ein priodas! Mae’n fendigedig!
Preswylydd yn Prince George Duke of Kent Court, Chislehurst, Gorffennaf 2020